Bydd siaradwyr Esperanto, yr Iaith Ryngwladol, yn cael clywed am y diddordeb cynyddol yn yr iaith wrth iddynt gwrdd yn Llandudno dros y Sul.
Bydd Llandudno yn cynnal y Gynhadledd Esperanto genedlaethol eleni yng ngwesty mawreddog yr Imperial ar lan y môr. Bydd siaradwyr Esperanto so Brydain yn ei mynychu, ayn ogystal â chynadleddwyr o ddeg o wledydd eraill.
Mae'r siardwyr gwadd yn cynnwys yr awdures Esperanto Anna Loewenstein o'r Eidal,a'r geiriadrwr yr Athro John Wells o Goleg y Brifysgol, Llundain. Bydd Anna'n sôn am ysgrifennu ffuglen ar gyer cynulleidfa ryngwladol , a bydd yr Athro Wells yn lansio'i eiriadur Esperanto-Saesneg newydd.
Bydd Côr meibion Maelgwn yn canu nos Wener a bydd gwasanaeth yn Eglwys Sant Ioan fore Sul . Mae Ei Mawrhydi, y Frenhines, eisoes wedi ysgrifennu yn Gymraeg, i ddymuno'n dda i'r Gynhadledd. Bydd Maer Llandudno'n mynychu hefyd.
Esperanto yw'r 22ain yn y rhestr o ieithoedd a ddefnyddir yn ôl Wikipedia, o flaen Daneg ac Arabeg. Mae'n ddewis iaith gan Google, Skype, Firefox a Facebook. Iaith lafar a llenyddol yw Esperanto sy'n perthyn i bawb ac i neb yn yr un modd, a ddefnyddir ganb bobl sy'n siarad dwy neu ragor o ieithoedd ledled y byd ac sydd o blaid amrywiaeth ieithoedd.
10 May 2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment